No themes applied yet
Achau Iesu y Meseia
(Luc 3:23-38)
1Rhestr achau Iesu y Meseia, oedd yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd, ac Abraham hefyd:
2Abraham oedd tad Isaac,
Isaac oedd tad Jacob,
Jacob oedd tad Jwda a鈥檌 frodyr,
3Jwda oedd tad Peres a Sera (a Tamar oedd eu mam),
Peres oedd tad Hesron,
Hesron oedd tad Ram,
4Ram oedd tad Aminadab,
Aminadab oedd tad Nahson,
Nahson oedd tad Salmon,
5Salmon oedd tad Boas (a Rahab oedd ei fam),
Boas oedd tad Obed (a Ruth oedd ei fam),
Obed oedd tad Jesse,
6a Jesse oedd tad y Brenin Dafydd.
Dafydd oedd tad Solomon (ac roedd ei fam wedi bod yn wraig i Wreia),
7Solomon oedd tad Rehoboam,
Rehoboam oedd tad Abeia,
Abeia oedd tad Asa,
8Asa oedd tad Jehosaffat,
Jehosaffat oedd tad Jehoram,
Jehoram oedd tad Wseia,
9Wseia oedd tad Jotham,
Jotham oedd tad Ahas,
Ahas oedd tad Heseceia,
10Heseceia oedd tad Manasse,
Manasse oedd tad Amon,
Amon oedd tad Joseia,
11a Joseia oedd tad Jechoneia a鈥檌 frodyr (a hynny ar yr adeg y cafodd yr Iddewon eu caethgludo i Babilon).
12Ar 么l y gaethglud i Babilon:
Jechoneia oedd tad Shealtiel,
Shealtiel oedd tad Sorobabel,
13Sorobabel oedd tad Abiwd,
Abiwd oedd tad Eliacim,
Eliacim oedd tad Asor,
14Asor oedd tad Sadoc,
Sadoc oedd tad Achim,
Achim oedd tad Eliwd,
15Eliwd oedd tad Eleasar,
Eleasar oedd tad Mathan,
Mathan oedd tad Jacob,
16a Jacob oedd tad Joseff (g诺r Mair 鈥 y ferch gafodd Iesu, y Meseia, ei eni iddi).
17Felly roedd un deg pedair cenhedlaeth o Abraham i鈥檙 Brenin Dafydd, un deg pedair cenhedlaeth o Dafydd hyd nes i鈥檙 Iddewon gael eu caethgludo i Babilon, ac un deg pedair cenhedlaeth o鈥檙 gaethglud i鈥檙 Meseia.
Geni Iesu y Meseia
(Luc 2:1-7)
18Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhw鈥檔 darganfod fod yr Ysbryd Gl芒n wedi鈥檌 gwneud hi鈥檔 feichiog.1:18 Luc 1:27 19Roedd Joseff, oedd yn mynd i鈥檞 phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a鈥檌 chyhuddo hi鈥檔 gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo鈥檙 briodas.
20Roedd wedi bod yn meddwl am hyn pan gafodd freuddwyd: gwelodd angel Duw yn dod ato a dweud wrtho, 鈥淛oseff fab Dafydd, paid petruso mynd 芒 Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai鈥檙 Ysbryd Gl芒n sydd wedi gwneud iddi feichiogi. 21Bachgen fydd hi鈥檔 ei gael. Rwyt i roi鈥檙 enw Iesu1:21 Iesu: Ystyr yr enw 鈥淚esu鈥 yn Hebraeg ydy 鈥楳ae鈥檙 Arglwydd yn achub鈥. iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o鈥檜 pechodau.鈥1:21 Luc 1:31
22Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir: 23鈥淓drychwch! Bydd merch ifanc sy鈥檔 wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel鈥1:23 Eseia 7:14 (LXX) (Ystyr Emaniwel ydy 鈥淢ae Duw gyda ni.鈥1:23 cyfeiriad at Eseia 8:8,10 (LXX))
24Pan ddeffrodd Joseff, gwnaeth beth roedd angel Duw wedi鈥檌 ddweud wrtho. Priododd Mair, 25ond chafodd e ddim rhyw hefo hi nes i鈥檞 mab gael ei eni. A rhoddodd yr enw Iesu iddo.1:25 Luc 2:21
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015