No themes applied yet
Llinach Iesu Grist
Lc. 3:23鈥38
1Dyma restr achau Iesu Grist, Mab Dafydd, mab Abraham.
2Yr oedd Abraham yn dad i Isaac, Isaac yn dad i Jacob, a Jacob yn dad i Jwda a'i frodyr. 3Yr oedd Jwda yn dad i Peres a Sera, a Tamar yn fam iddynt; yr oedd Peres yn dad i Hesron, Hesron i Ram, 4Ram i Amminadab, Amminadab i Nahson, Nahson i Salmon; 5yr oedd Salmon yn dad i Boas, a Rahab yn fam iddo, Boas yn dad i Obed, a Ruth yn fam iddo, Obed yn dad i Jesse, 6a Jesse yn dad i'r Brenin Dafydd.
Yr oedd Dafydd yn dad i Solomon, a gwraig Ureia yn fam iddo, 7yr oedd Solomon yn dad i Rehoboam, Rehoboam yn dad i Abeia, ac Abeia'n dad i Asa. 8Yr oedd Asa'n dad i Jehosaffat, Jehosaffat i Joram, Joram i Usseia, 9Usseia i Jotham, Jotham i Ahas, Ahas i Heseceia, 10Heseceia i Manasse, Manasse i Amon, ac Amon i Joseia. 11Yr oedd Joseia yn dad i Jechoneia a'i frodyr yng nghyfnod y gaethglud i Fabilon.
12Ar 么l y gaethglud i Fabilon, yr oedd Jechoneia yn dad i Salathiel, Salathiel i Sorobabel, 13Sorobabel i Abiwd, Abiwd i Eliacim, Eliacim i Asor, 14Asor i Sadoc, Sadoc i Achim, Achim i Eliwd, 15Eliwd i Eleasar, Eleasar i Mathan, a Mathan i Jacob. 16Yr oedd Jacob yn dad i Joseff, g诺r Mair, a hi a roddodd enedigaeth i Iesu, a elwid y Meseia.
17Felly, pedair ar ddeg yw cyfanrif y cenedlaethau o Abraham hyd Ddafydd, a phedair ar ddeg o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon, a phedair ar ddeg hefyd o'r gaethglud i Fabilon hyd y Meseia.
Genedigaeth Iesu Grist
Lc. 2:1鈥7
18Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dywedd茂o i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi'n feichiog o'r Ysbryd Gl芒n. 19A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio'n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei g诺r, ei gollwng ymaith yn ddirgel. 20Ond wedi iddo gynllunio felly, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo mewn breuddwyd, a dweud, 鈥淛oseff fab Dafydd, paid ag ofni cymryd Mair yn wraig i ti, oherwydd y mae'r hyn a genhedlwyd ynddi yn deillio o'r Ysbryd Gl芒n. 21Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau.鈥 22A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd:
23鈥淲ele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab,
a gelwir ef Immanuel鈥,
hynny yw, o'i gyfieithu, 鈥淵 mae Duw gyda ni鈥. 24A phan ddeffr么dd Joseff o'i gwsg, gwnaeth fel yr oedd angel yr Arglwydd wedi gorchymyn, a chymryd Mair yn wraig iddo. 25Ond ni chafodd gyfathrach 芒 hi hyd nes iddi esgor ar fab; a galwodd ef Iesu.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign 爱神传媒 2004