No themes applied yet
Ymweliad y gw欧r doeth
1Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar 么l hynny, daeth gw欧r doeth2:1 gw欧r doeth: Dynion oedd yn astudio鈥檙 s锚r. o wledydd y dwyrain i Jerwsalem 2i ofyn, 鈥淏le mae鈥檙 un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a d欧n ni yma i dalu teyrnged iddo.鈥
3Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu鈥檔 l芒n. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. 4Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a鈥檙 arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i鈥檞 gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, 鈥淏le mae鈥檙 Meseia i fod i gael ei eni?鈥 5鈥淵n Bethlehem Jwdea,鈥 medden nhw. 鈥淒yna ysgrifennodd y proffwyd:
6鈥楤ethlehem, yn nhir Jwda 鈥
Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti;
achos ohonot ti daw un i deyrnasu,
un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.鈥欌2:6 Micha 5:2
7Ar 么l cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw鈥檙 gw欧r doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos. 8Yna dwedodd, 鈥淓wch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. A gadewch i mi wybod pan ddewch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.鈥
9Ar 么l gwrando beth oedd gan y brenin i鈥檞 ddweud, i ffwrdd 芒 nhw. Dyma鈥檙 seren yn mynd o鈥檜 blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. 10Roedden nhw wrth eu bodd! 11Pan aethon nhw i mewn i鈥檙 t欧, dyna lle roedd y plentyn gyda鈥檌 fam, Mair, a dyma nhw鈥檔 disgyn ar eu gliniau o鈥檌 flaen a鈥檌 addoli. Yna dyma nhw鈥檔 agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo 鈥 aur a thus a myrr2:11 thus a myrr: Powdr costus oedd yn arogli鈥檔 hyfryd wrth gael ei losgi oedd thus. Powdr costus arall oedd yn cael ei ddefnyddio i wneud persawr oedd myrr. 12Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn 么l at Herod, felly dyma鈥檙 gw欧r doeth yn teithio yn 么l i鈥檞 gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.
Dianc i鈥檙 Aifft
13Ar 么l iddyn nhw fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, 鈥淩haid i chi ddianc ar unwaith! Dos 芒鈥檙 plentyn a鈥檌 fam i鈥檙 Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn 么l. Mae Herod yn ceisio dod o hyd i鈥檙 plentyn er mwyn ei ladd.鈥
14Felly cododd Joseff ganol nos a gadael am yr Aifft gyda鈥檙 plentyn a鈥檌 fam. 15Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw. Felly daeth beth ddwedodd yr Arglwydd drwy鈥檙 proffwyd yn wir: 鈥淕alwais fy mab allan o鈥檙 Aifft.鈥2:15 Hosea 11:1
16Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gw欧r doeth wedi鈥檌 dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem a鈥檙 cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed 鈥 hynny ar sail beth oedd y gw欧r doeth wedi鈥檌 ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren i鈥檙 golwg. 17A dyna sut daeth geiriau y proffwyd Jeremeia yn wir:
18鈥淢ae cri i鈥檞 chlywed yn Rama,
s诺n wylo chwerw a galaru mawr 鈥
Rachel yn crio am ei phlant.
Mae鈥檔 gwrthod cael ei chysuro,
am eu bod nhw wedi mynd.鈥2:18 Jeremeia 31:15
Mynd i fyw i Nasareth
19Pan fuodd Herod farw, cafodd Joseff freuddwyd arall yn yr Aifft. Gwelodd angel yr Arglwydd 20yn dweud wrtho, 鈥淒os 芒鈥檙 plentyn a鈥檌 fam yn 么l i wlad Israel. Mae鈥檙 bobl oedd am ei ladd wedi marw.鈥
21Felly dyma nhw鈥檔 mynd yn 么l i wlad Israel. 22Ond pan glywodd Joseff mai Archelaus, mab Herod, oedd llywodraethwr newydd Jwdea, roedd ganddo ofn mynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd eto, a throdd i gyfeiriad Galilea, 23a mynd i fyw i dref Nasareth. Felly daeth yr hyn ddwedodd y proffwydi am y Meseia yn wir unwaith eto: 鈥淏ydd yn cael ei alw yn Nasaread.鈥2:23 Bydd yn cael ei alw yn Nasaread: Does neb yn gwybod pwy oedd y proffwyd ddwedodd hyn.2:23 Marc 1:24; Luc 2:39; Ioan 1:45
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015